Available translations: English

Gwerthfawrogi ein Cyfalaf Naturiol at ddiben asesiad effeithlon 

Mae asesiadau cyfalaf naturiol yn pennu gwerth i'r gwasanaethau a manteision yr amgylchedd naturiol ar gyfer integreiddio gwell i brosesau penderfynu.  

Mae natur yn darparu'r nwyddau a’r gwasanaethau sylfaenol sy’n gwneud bywyd dynol yn bosib: y bwyd rydym yn ei fwyta, y dŵr rydym yn ei yfed a’r deunydd gan blanhigion rydym ni’n eu defnyddio ar gyfer tanwydd, deunyddiau adeiladu a meddyginiaeth. Mae’r byd naturiol hefyd yn darparu gwasanaethau llai gweladwy megis rheoleiddio'r hinsawdd, amddiffynfeydd naturiol yn erbyn llifogydd a ddarperir gan fforestydd, tynnu llygrwyr aer gan lystyfiant a pheillio cnydau gan bryfed. Ar ben hynny, mae'r ysbrydoliaeth rydym ni’n ei chymryd o fywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol.  

Gall pennu pris i’n hasedau cyfalaf naturiol, gan gynnwys ansawdd yr asedau hynny a llifau'r gwasanaeth, ein helpu i feddwl yn rhesymegol am ba agweddau ar y byd naturiol rydym ni’n eu mesur a sut maent yn effeithio ar bobl.  

Asedau cyfalaf naturiol yw’r pethau sy’n parhau yn y tymor hir, megis mynydd neu boblogaeth pysgod. O’r asedau hynny, mae pobl yn derbyn llif o wasanaethau megis llwybrau cerdded ar y mynydd at ddibenion adloniant a physgod sy’n cael eu dal at ddiben bwyd. Gall y llif o wasanaeth ddibynnu ar ansawdd neu nodweddion eraill yr asedau hynny. Gall y berthynas hon amrywio, gan ddibynnu ar y math o wasanaeth. Yn olaf, gallwn bennu gwerth o ran budd i’r gymdeithas gan y gwasanaethau hynny drwy amcangyfrif yr hyn y byddai’r cerddwyr wedi’i wario i’w gwneud hi’n bosib iddynt gerdded ar y mynydd neu’r elw i’r pysgotwyr o ddod â physgod i’r farchnad. Mae cymhwyso’r rhesymeg hon yn gyson ar draws asedau a gwasanaethau yn ei gwneud hi’n bosib i ni ddechrau creu darlun o’r gwerth mae natur yn ei ddarparu.  

Mae’r manteision rydym ni’n eu derbyn gan natur yn gudd, yn rhannol neu’n goll o fantolen y genedl ar y cyfan. Fodd bynnag, drwy gydnabod byd natur fel ffurf o gyfalaf a datblygu cyfrifon o gyfraniad cyfalaf byd natur at ein lles, gall penderfynwyr gynnwys yr amgylchedd yn well yn eu cynlluniau i neilltuo adnoddau i ddatblygu a chynnal yr economi.  

Mae datblygu cyfrifon cyfalaf naturiol wedi cael ei amlygu gan y Pwyllgor Cyfalaf Natiriol ac Asesiad o Ecosystem Naturiol y DU fel gweithgaredd sylfaenol sy’n angenrheidiol os ydym ni i brif-ffrydio cyfalaf naturiol wrth wneud penderfyniadau. 

Mae cyfrifo cyfalaf naturiol Cymru yn digwydd drwy ERAMMP. Gweler yr adroddiadau isod am ragor o wybodaeth.